Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 5
Hydref 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(10 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc
(60 munud)
NDM8074 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) yr effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd;
b) bod pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol;
c) bod ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn:
a) cryfhau'r canllawiau;
b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a
c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain.
Cyd-gyflwynwyr
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd)
Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Ail Gartrefi
(60 munud)
NDM8084 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ail gartrefi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau mawr
(60 munud)
NDM8086 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.
2. Yn credu bod digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd.
3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i Gymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.
Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel ddefnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol.
9 Cyfnod Pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8085 Sam Rowlands (Gogledd Cymru)
Chwaraeon yng Ngogledd Cymru: sicrhau cyfleoedd i bawb
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Hydref 2022